Cymdeithas John Gwilym Jones

Cymdeithas Lenyddiaeth Gymraeg Prifysgol Bangor yw Cymdeithas John Gwilym Jones a sefydlwyd ar yr 2il o Hydref 2018. Roedd hen Gymdeithas Ddrama Gymraeg Prifysgol Bangor wedi ei hail-sefydlu rai blynyddoedd ynghynt, ond mynd i'r gwellt oedd ei hanes unwaith yn rhagor. Yn sgil methiant y gymdeithas honno, daeth criw o fyfyrwyr y Brifysgol at ei gilydd i drafod y ffordd ymlaen, a ffrwyth y trafodaethau hynny oedd sefydlu'r Gymdeithas hon. Penderfynwyd enwi'r Gymdeithas ar ôl y dramodydd enwog John Gwilym Jones, a hynny am y cred nifer o bobl na wnaed digon i goffau'r llenor o'r Groeslon wedi ei farwolaeth. Sefydlwyd y Gymdeithas mewn noson arbennig yn Bar 1884, rhan o'r Brifysgol. Dathliad o allbwn llenyddol dinas Bangor oedd y noson, gyda darlleniadau, perfformiadau a cherddoriaeth.


Developed by StudentB